Cyfarfod Ymgynghoriad ar y Mesur ADY - Felinfach 6/2/17
CAAAau ysgolion cynradd ysgolion canol/de Ceredigion –
10 Nod y Mesur
· Cwestiynu parthed pryderon beth fydd yn digwydd fyny i 25ain oed. Eu bod yn medru cael mynediad i Addysg.
· 6 - Pryderon bod yr hawl i fynd at Dribiwnlys yn mynd i fod ar draws yr ystod. Cyfleoedd Tribiwnlys yn mynd i fod yn ehangach. Nid y disgyblion mwyaf anghenus sydd/bydd yn mynd i dribiwnlys.
Diffiniad rôl yr ALNCo
· Cwestiynu am eglurder y rôl. (Dim ond y disgyblion AAA sydd yn cael eu dal ).
· Gweithdai yn cael eu cynnal ym Mawrth – rôl yr ALNCo (Expert group)
· Cwesitynu statws disgyblion MA+T o dan y mesur? Dylai rhain cael eu cwmpasu gan yr ochr fugeiliol?
Where a young person is not attending school – LA would be responsible to provide
· Grey area mawr– mae angen eglurder MAWR ar hwn.
· Consyrn mawr bod cyllid yr ALl yn gallu cael ei dynnu allan o ysgolion i gyllido Addysg gartref?
IDP’s
Cyfrifoldeb yn trosglwyddo o’r Ysgol i’r ALl
· Cydweithio agos rhwng yr awdurdod ag ysgolion fel ag y mae.
· Consyrn parthed rheini yn gallu pwsio bod y gyfrifoldeb dros IDP yn trosglwyddo i’r All
· Adolygu CDU – statudol gyda’r adolygiad unwaith y flwyddyn neu ‘On request’
· Angen diffiniad o ‘or on request’ – hyn yn peri gofid mawr o ran llwyth gwiath i’r ALNCo
0-25 Pwynt 1
· Mae’r ffaith bod yn cynnwys Llywodraethwyryn codi pryderon parthed rôl y Llywodraethwyr – diffyg arbenigedd yn y Corff Llywodraethwyr.
· Cwestiynu ar ba sail mae’r ysgol yn gwneud penderfyniad o ran adnabod ADY – angen meini prawf er mwyn bod yn gyfartal ar draws ysgolion ac ALl.
· Rôl DECLO yn allweddol yma. (Ar hyn o bryd mae staff meddygol yn awgrymu bod cymorth 1:1 yn addas er mai penderfyniad staff addysg dylai hyn fod – yn codi disgwyliadau rhieni mewn ffordd anffodus).
· Cyfrifoldeb yn dod i’r ALl o’r Llywodraeth ar gyfer ôl 16 – consyrn bod dim rôl ar gyfer arbenigwyr Careers Wales yn y cynlluniau yma.
Datblygu’r gweithlu
· Datblygu sgiliau craidd yn dod i fewn i hyfforddiant ANG – mae angen mwy o gyfartaledd ar draws profiadau/hyfforddiant ANG. Ni does digon o ddealltwriaeth gan rai ar hyn o bryd.
· Ydyw hyn yn ymarferol? - mewn ysgolion bach gwledig ble mae’r athrawon yn dysgu ac yn bennaeth yn ogystal â gwneud y rôl SENCO – ni fydd amser ganddynt i wneud hyfforddiant ar lefel Masters?
· Pryderon ynglŷn â’r llwyth gwaith ar gyfer yr ALNCO mewn ysgolion mawr (3-19) lle mae’r nifer o ddisgyblion efo CAU nawr yn fawr.
· Y disgwyliad bod yr ALNCO yn aelod o’r uwch dim rheoli yn peri gofid. Byddai cymryd cyfrifoldebau ychwanegol i rôl yr ALNCO yn anodd o ran gwneud cyfiawnder â’r holl gyfrifoldebau. Tuedd o fod yn rôl arweinyddol ar draws yr ysgol yn ogystal ag arwain ar ADY.
Unrhyw gwestiwn arall?
· Consyrn parthed y cyllid – cychwyn y cyllid ac yna yn ei dynnu ffwrdd , ond y disgwyliadau yn parhau.
· A fydd disgyblion gyda sgiliau sylfaenol llythrennedd/rhifedd yn cael eu adnabod gyda ADY neu beidio? – angen eglurdeb ar y meini prawf – byddai’r ateb i’r cwestiwn yma yn cael effaith enfawr ar llwyth gwaith yr ALNCo.
· Oes modd o osod disgyblion SGILIAU SYLFAENOL – o dan adain tim llythrennedd/rhifedd yr ysgolion yn hytrach nag ar y gofrestr AAA? - y disgyblion sydd angen ychydig o hwb dros dro yn unig.
· Trafodwyd y neges o adnabyddiaeth o angen y disgybl felly yn ADY. Angen CRITERIA pendant.